Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (195) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 8 a 10 i 11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Croesawodd y Llywydd aelodau o gyngor ysgol Ysgol Gynradd Gatholig Sant Illtyd yn Nowlais, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus.
Datganiad y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd y cafodd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai .
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.17
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru: Cyfleoedd ar gyfer Buddsoddiad Newydd
Dechreuodd yr eitem am 14.28
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Twf Swyddi Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.09
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.45
6 Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: Adroddiad y Farwnes Kay Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi
Dechreuodd yr eitem am 16.32
7 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: y wybodaeth ddiweddaraf am Bennod 7 o’r Rhaglen Lywodraethu, “Cymunedau Mwy Diogel”
Dechreuodd yr eitem am 17.17
8 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Entrepreneuriaeth Busnes
Dechreuodd yr eitem am 17.55
Daeth y cyfarfod i ben am 18.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mai 2014